Uchel Ddugiaeth y Ffindir
Math | gwlad ar un adeg, uned weinyddol hanesyddol |
---|---|
Prifddinas | Helsinki |
Poblogaeth | 2,943,400 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Maamme/Vårt land |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Swedeg, Ffinneg, Rwseg, Rwseg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ymerodraeth Rwsia |
Sir | Ymerodraeth Rwsia, Gwladwriaeth Rwsia, Gweriniaeth Sosialaidd Ffederal Sofietaidd Rwsiaidd |
Gwlad | Ymerodraeth Rwsia, Gwladwriaeth Rwsia |
Arwynebedd | 360,000 km² |
Cyfesurynnau | 64°N 26°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Senedd y Ffindir |
Crefydd/Enwad | Eglwys Uniongred Ffindir, Eglwys Efengylaidd Lwtheraidd Ffindir |
Arian | Swedish riksdaler, Finnish markka |
Gwladwriaeth led-hunanlywodraethol oedd Uchel Ddugiaeth y Ffindir (Ffinneg: Suomen suuriruhtinaskunta) a fodolai dan dra-arglwyddiaeth Ymerodraeth Rwsia o 1809 i 1917.
Sefydlwyd yr uchel ddugiaeth yn sgil Cytundeb Frederikshamn ar derfyniad Rhyfel y Ffindir (1808–09) a orfododd Teyrnas Sweden i ildio'r Ffindir i Rwsia. Er yr oedd mewn undeb real anffurfiol ag Ymerodraeth Rwsia, a'r Tsar yn dwyn teitl Uchel Ddug y Ffindir, cafodd gradd uchel o ymreolaeth, gan gynnwys cyfansoddiad, llywodraeth, ac arian cyfred ei hun.
Bu'r 19g yn oes euraid i'r Ffindir ar y cyfan, a chafwyd adfywiad diwylliannol a thwf economaidd sylweddol. Dyrchafwyd y Ffinneg yn iaith genedlaethol, a blodeuai llenyddiaeth, cerddoriaeth, a'r celfyddydau.[1]
Ym 1906 sefydlwyd senedd ddemocrataidd yr Eduskunta, a'r Ffindir oedd y wlad gyntaf yn Ewrop i roi i ferched yr hawl i bleidleisio. Er gwaethaf y datblygiadau gwleidyddol hyn, daeth yr uchel ddugiaeth dan bwysau i integreiddio â'r ymerodraeth yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Datganodd y Ffindir ei hannibyniaeth oddi ar Rwsia ym 1917.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Jussi Kurunmäki ac Ilkka Liikanen, "The Formation of the Finnish Polity within the Russian Empire: Language, Representation, and the Construction of Popular Political Platforms, 1863-1906", Harvard Ukrainian Studies 35:1–4 (2017–18), tt. 399–416.